Syth i'r cynnwys

Cymdeithas Hanes Ceredigion

Prif nod y Gymdeithas yw diogelu, cofnodi a hyrwyddo'r gwaith o astudio archaeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Glynwyd wrth y nod hwnnw ers sefydliad y Gymdeithas yn 1909, er newidiwyd enw'r Gymdeithas i Cymdeithas Hanes Ceredigion yn 2002 o Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi. Y mae'n cyflawni hyn drwy gyhoeddiad cylchgrawn, cyfres dair-cyfrol ar Hanes y Sir ac drwy cynnal hefyd rhaglen o ddarlithiau ac ymweliadau â mannau hanesyddol.

logo

Canmlwyddiant 1909-2009

Dathlwyd canmlwyddiant y Gymdeithas yn 2009. Coffawyd hwn gyda darlith ar hanes y Gymdeithas gan yr Athro Geraint H Jenkins, taith i Abaty Ystrad Fflur, Arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a lansiad gwefan y Gymdeithas.

Dros y ganrif a aeth heibio y mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi pymtheg cyfrol o'r Trafodion, dwy gyfrol o'i chyfres dair-cyfrol arfaethedig ar Hanes y Sir, a chynnal hefyd raglen flynyddol reolaidd o ddarlithiau ac ymweliadau â mannau hanesyddol. Y mae wedi gweithio'n agos ag Amgueddfa Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Wrth ddathlu camp ei sylfaenwyr, y mae'r Gymdeithas yn edrych ymlaen at gyflawni ei chyfrifoldebau yn ystod y can mlynedd nesaf.


Beth sydd ar y wefan?

Bwriad y wefan yw darparu gwybodaeth am y Gymdeithas i aelodau a darpar aelodau am y Gymdeithas a'i gyhoeddiadau a gweithgareddau.

Mae'r safle hefyd yn cynnwys manylion Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol y Gymdeithas a'r Swyddogion sy'n cyfrifol am drefnu'r Gymdeithas.

Bwriedir ychwanegu deunydd ychwanegol i'r wefan yn y dyfodol a fydd o ddiddordeb i haneswyr ac ymchwilwyr, gan gynnwys fersiynau digidol o sawl eitem o gyhoeddiadau'r Gymdeithas, a hefyd deunydd newydd sy'n anaddas ar gyfer dulliau cyhoeddi traddodiadol oherwydd maint neu ffurf.
Array
Cover/Clawr \

Dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.